"Mond gêm yw hi wedi'r cyfan," medden nhw. Y, na...
Codwyd cenedl gyfan gan lwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016. Mae'r gyfrol hon yn gasgliad o ysgrifau, cerddi a lluniau sy'n ail-fyw cynnwrf camp ein tîm cenedlaethol yn Ffrainc. Y cyffro, y gorfoledd a'r dathlu. Roedd y profiad bron yn un ysbrydol i'r rhai oedd yno, ac i'r rhai fu yn y fanzone yng Nghaerdydd, mewn clybiau, tafarndai ac ar aelwydydd, pob un yn dyst i allu pêl-droed i dynnu pobol ynghyd.
Cyfrannwyr:
Rhys iorwerth, Geraint Lovgreen, Iola Wyn, Phil Davies, Ffion Eluned Owen, Rhys Hartley, Dylan Ebenezer, Richard Jones, Gwyn jenkins, Laura McAllister ac Aled Gwyn.
Bydd holl elw y llyfr hwn yn mynd at elusen cefnogwyr pêl-droed Cymru, Gôl!