'Ry'n ni'n gorfod bod yn ofalus iawn yn y cyfryngau i beidio â dweud popeth sydd ar ein meddwl. Ond yma, fe fedra i ddweud fy nweud heb flewyn ar dafod.'
Dyma hunangofiant un o gymeriadau mwyaf lliwgar a phoblogaidd Cymru.
Mae Dai yn 'dal i geibo', ac yntau bellach yn 73 oed. Mae Cefn Gwlad, a'i raglen radio, Ar Eich Cais, yr un mor boblogaidd ag erioed, a Dai yn ei elfen yn cyflwyno'r ddwy raglen. Cawn wybod mwy am y cymeriadau ac am sawl tro trwstan a ddigwyddodd yn ystod ffilmio'r rhaglenni teledu.
Cawn hanes ei anturiaethau i Batagonia, i America, i Ffrainc, ac i'r Aifft i geisio dysgu nofio, yn ogystal â'i ymweliadau â llefydd hardd a diarffordd dros Gymru gyfan. 'Rhaid mynd, er mwyn dod 'nôl,' medde Dai.
Oherwydd ei waith fel cyflwynydd a'i gyfraniad i fyd amaeth, mae Dai wedi derbyn nifer o anrhydeddau dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Cymrodoriaeth BAFTA Cymru, a'i wneud yn Athro yn y Celfyddydau gan Brifysgol Cymru. Ond yr anrhydedd fwyaf iddo oedd cael bod yn Llywydd Sioe'r Cardis yn 2010.
Yn ôl Dai, mae'r gyfrol hon 'yn fonws, yn encôr geiriol ac yn gyfle arall i gael dweud "Diolch"'.