'Yn ystod fy wythnos gynta yn yr ysgol uwchradd fe gwrddes â dosbarth 3H... Cododd merch ifanc ar ei thraed a gofyn y cwestiwn anfarwol "Who the f**ck are you then?"'
Yn fwyaf adnabyddus fel Derek, perchennog y Garej ar Pobol y Cwm, mae Hywel yn wyneb a llais cyfarwydd drwy Gymru benbaladr. Mae hefyd wedi actio mewn degau o raglenni a ffilmiau eraill. Yn yr hunangofiant agos-atoch hwn, mae'r actor hoffus yn adrodd stôr o storiau a throeon trwstan difyr.
Mae gan Hywel stori ddirdynnol i'w dweud hefyd. Bu farw ei wraig annwyl Liz yn sgil cancr y llynedd, ac yma mae'n agor ei galon am ei brwydr ddewr hi a'i brofiad yntau o golli rhywun mor agos i'r afiechyd creulon hwn.
Fe'i ganed yng Nghaerfyrddin, yn fab y mans. Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i blant Ffion a Sam.