Mae Tomos Melfydd George yn gymeriad adnabyddus yn ei ardal, sef gogledd Sir Benfro a de Sir Aberteifi. Ac yntau bellach yn ei wythdegau daw ei atgofion yn ôl iddo yn ddwfn o gell ei gof. Cawn ei hanes yn gweithio ar ffermydd ledled yr ardal yn ystod ei ieuenctid ac yna'n mentro i Ganada bell ar ddechrau'r 1950au. Yn ddiweddarach bu'n gweithio i nifer o gwmniau amaeth ac yn rhedeg busnes contractio amaethyddol llwyddiannus.
Dyn diwylliedig yw Melfydd, dyn y Pethe. Mae'n bregethwr lleyg ac mae'r capel wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd. Bu'n weithgar gyda Phlaid Cymru ers ymaelodi yn 21 oed. Bu'n gynghorydd bro a chynghorydd tref a chafodd ei ethol yn faer tref Aberteifi yn 2007 ar adeg trefnu dathliadau 900 mlwyddiant y dref.
Dyma ddyn sy'n dweud ei ddweud yn ddiflewyn-ar-dafod ar nifer o bynciau'r dydd, ac mae ei gariad at ei fro, ei wlad a'i iaith yn amlwg ym mhob agwedd o'i fywyd.