Adolygiadau
Mae'r gyfrol eithriadol hon wedi bod ger fy mhenelin ers dydd Gwener, ac mae'n rhagorol. Jon Gower ar ei orau - dyfeisgar, di-ffiniau, a'r ysgrifennu fel dawnsio ar hyd y dudalen.
- Bethan Mair
Bûm yn chwerthin, cefais fy synnu, a fy nghyffwrdd.
- Catrin Beard
Mae'r straeon yn amlygu dychymyg carlamus, yn grefftus, yn ddoniol, ac yn aros yn y cof.
- Meg Elis
Medda ar ddawn Ellis Wynne i brocio a dychanu, a defnyddia'i wybodaeth helaeth o ffilmiau, llyfrau, caneuon poblogaidd a daearyddiaeth America.
- Manon Rhys
"Mae'r stori agoriadol yn addewid o'r wedd ryngwladol sydd i'r gyfres straeon, 21 ohonynt i gyd, rhai'n straeon byrion, eraill yn fyrion iawn, un ny ddeg gair o hyd...yn ddifyr a doniol, eto'n mynnu bod angen cnoi cil dros ambell stori cyn cael at ei chraidd."
- Rhiannon Ifans, Cylchgrawn Barn
Ym mhob stori mae math gwahanol o sgrifennu a cheir y realaidd a'r ffantasiol law yn llaw a'i gilydd. Mae Jon Gower wedi llwyddo i greu cymeriadau y gallaf uniaethu a nhw. Mae n nhw'n cynrychioli rhai o wendidau a dyheadau mwyaf sylfaenol dynoliaeth; ein natur gelwyddog a'n hawydd i ddychwelyd at gyfnodau melysaf ein bywyd er enghraifft.
- Cylchgrawn Golwg
"Wrth droi bob tudalen doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl nesaf. Mae yma amrywiaeth mawr o ran hyd a chynnwys... fe gaiff yr awdur fwynhad amlwg o grefftio disgrifiadau manwl a phrydferth. Mae hefyd yn ymhyfrydu yn eironi a hiwmor y digwyddiadau rhyfeddol sy'n cael eu disgrifio, ond serch yr awyrgylch swreal, mae'r cymeriadau'n parhau yn rhai real iawn, a'r cyfuniad yma sy'n gwneud y straeon mor ddifyr."
- Cerian Arianrhod, Gwales
"Gwelir yr haenau ynddi a'r cynildeb wrth ddewis pa enw ac iaith i'w defnyddio yn yr ychydig ddeialog a geir. Mae'n creu plethwaith o'r storiau 'sy'n ein hwynebu ni i gyd, ac am ein cwmpasu a'n cynnwys, ein drysu a'n ddiddanu' drwy'r gyfrol."
- Megan Hughes Tomos, O'r Pedwar Gwynt