Ddechrau 2015, collwyd cawr o ddyn oedd ar dân dros Gymru a'r Gymraeg. Yn y gyfrol deyrnged ddadlennol hon, dan olygyddiaeth Eluned, ei ferch, a gyda chymorth Rocet Arwel Jones, trafodir y cyfraniad aruthrol a wnaeth Meredydd Evans i ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Ond trafodir hefyd y dyn ei hun, un annwyl, agos atoch, nad oedd dim yn bwysicach iddo na'i filltir sgwâr a hynny er gwaetha'r ffaith ei fod yn gwbl gartrefol ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn rhannu eu profiad o'r Cymro unigryw hwn mae awduron o'u hugeiniau hyd at eu nawdegau, gan gynnwys Angharad Tomos, Gai Toms, Lyn Ebenezer a Cynog Dafis – a hynny'n dyst i boblogrwydd Merêd ymhlith pobl o bob oed. Ceir hefyd gerddi teyrnged, a cherdd olaf Merêd ei hun, ynghyd â llu o luniau o bob cyfnod o'i fywyd.