"Haden" i ni bobol Ceredigion yw tipyn o gymeriad. Ond yr hadau hefyd y'w digwyddiadau a'r hanes sy'n rhan o'n diwylliant ni.
Mae "Hadau Ceredigion" yn dilyn Owain Llyr ar grwydr, wrth iddo ddod i nabod y sir a rhai o'i golygfeydd a'i thrigolion hynotaf.
Bu Ceredigion yn ysbrydoliaeth i Owain trwy gydol ei yrfa fel awdur a chyfarwyddwr ffilm ac eth ati yn 2008 i ddechrau llunio'r portread trawiadol hwn, gan gyfuno ffotograffau â thestun i greu cyfrol hardd am ddiwylliant gwledig sy'n wynebu heriau lu yn y Gymru gyfoes.
O geirw coch yng Nghapel Dewi i lun godidog o Ynys Lochtyn o'r Hirallt, o Sadwrn Barlys Aberteifi i aber afon Dyfi yn Ynyslas, mae'r lluniau'n adlewyrchu ei ysfa i grwydro'r sir gyda'i gamera wrth ei ochr. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys portreadau o gymeriadau mor amrywiol â Bryan 'Yr Organ' Jones ac Elin Jones AC, a Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke a'r arloeswr ffotograffiaeth Ron Davies. Dyma ddathliad bendigedig o Geredigion ddoe a heddiw.