Dyma gyfrol sydd yn olrhain taith D Ben Rees o'i fagwraeth yn Llanddewibrefi yng Ngheredigion i ddinas fyrlymus Lerpwl, lle mae wedi ymgartrefu bellach ers dros ddeugain mlynedd.
Ceir hanes diflewyn-ar-dafod y pregethwr ar hyd troeon ei yrfa liwgar a helbulus. Mae'n wleidydd pybyr, yn areithiwr tanbaid, yn hanesydd manwl ac yn llenor toreithiog. Bu'n gyfrifol am sefydlu gwasg gyhoeddi, Cyhoeddiadau Modern, a chyhoeddodd nifer o gyfrolau, yn arbennig ar hanes Cymry Lerpwl.
Yn ddiweddar, gyhoeddodd gofiant i Jim Griffiths, a gafodd ei groesawu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones fel y llyfr mwyaf diddorol a ddarllenodd. Mae'n cyfaddef ei fod yn ddyn sydd ag "inc yn fy ngwaed". Bu'n olygydd ar lu o gylchgronau ac ar bapur bro Lerpwl, Yr Angor.
Bu'n teithio'n gyson dros y blynyddoedd, ond deil i fod yn ddyn sydd â'i draed ar y ddaear, yn falch o'r elusen ddyngarol a'r holl gymdeithasau a sefydlodd, yn wr a thad a thad-cu cariadus. Mae'n byw bywyd llawn ac mae'r hanesion am ei brofiadau yn ddi-ben-draw.