Dyma hunangofiant yr Athro Robert Owen OBE, llawfeddyg orthopedig amlwg o Gymru sydd wedi byw bywyd i'r eithaf.
Fe'i magwyd ar fferm ger Llanystumdwy yn y Gogledd, a chafodd ei hyfforddiant yn Ysbyty Guy's, Llundain, cyn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol a gweithio fel ymgynghorydd yn y Gogledd ac fel academydd yn Lerpwl.
Mae wedi teithio'n eang yn Affrica a Nepal, gan rannu ei wybodaeth am orthopedeg. Gartref yng Nghymru, helpodd i sefydlu Ysgol Farchogaeth Arbennig Clwyd.
Bu'n bysgotwr ac yn sgiwr brwd, ac mae hefyd yn caru ceir cyflym. Ac yntau bellach yn ei nawdegau, mae'r Cymro twymgalon hwn yn rhannu hanes ei fywyd.