Adolygiadau
“Mae Caryl Lewis ar ei gorau yn y nofel rymus hon.”
- Manon Steffan Ros
Y tad a’r mab a’r dieithryn yw’r drindod – Enoch, y tad sy’n prysur heneiddio, Isaac ei fab canol oed a chymhleth, ac Owen y dieithryn ifanc sy’n cyrraedd byd sy’n hollol ddieithr iddo. Ac mae’r byd hwnnw ei hun yn rym ac yn bresenoldeb yn y nofel.
Y dirgelwch ynglyn a’r gorffennol hwnnw yw’r peth sydd yn creu elfen ryfeddol o ysfa i droi tudalen. Mae yna hefyd gydnabyddiaeth o bwysigrwydd geiriau ac ysgrifennu trwy’r stori.,,
"Mae yma wrthdaro, tristwch, caledi, amheuaeth, cenfigen, ac eiliadau o dynerwch a charedigrwydd yn ogystal. Yn raddol down i amau bod rhyw gysgod sy’n peri bod yma fwy na’r tyndra arferol rhwng tad a mab. I ni, sydd ddim yn rhan o gymdeithas y mynydd, mae’n tyfu’n ddirgelwch. Mae’r eglurhad ar y diwedd yn ddigon i dorri’r galon galetaf."
Diffyg a methiant cyfathrebu yw un o brif themâu’r nofel, a phroblemau cyfathrebu rhwng dynion yn benodol...
“I ategu’r stori gref yma mae’r disgrifiadau manwl telynegol o olygfeydd y mynydd yn ystod y gwahanol dymhorau, a’r syndod sy’n tyfu’n barch, a welwn drwy lygaid Owen, at y bobl sy’n deall natur i’r graddau eu bod yn gallu byw a hi a’i rheoli, o fewn rheswm, at eu dibenion eu hunain."
"Nofel dywyll, sinistr .. ond eto ddim yn nofel drom, ac yn aros hefo chi. Mae 'na ddisgrifiadau trawiadol o fyd natur a sut mae'r bywyd yn dod yn rhan o'ch personoliaeth."
- Clwb Llyfrau, Radio Cymru
“Mae Caryl Lewis wedi llwyddo i greu darlun onest a lliwgar o fywyd bugail mynydd o dymor i dymor. Roeddwn yn teimlo fy mod yn clywed llift Nant y Clychau gan fod y disgrifiadau mor fyw. Fydd y nofel hon yn aros yn fy meddwl am amser hir.”
- Cylchgrawn Golwg
“Portreadir yma brydferthwch rhyfeddol cefn gwlad a gweithgareddau angenrheidiol pob tymor ond yn gefndir i’r cyfan mae ‘na hagrwch cynyddol."
- Sarah Down-Roberts, Gwales.com
Rarely does one see such an insight, understanding and true perception of nature, the countryside, the weather and seasonal rural Wales.
- Marged Tudur, New Welsh Review