Mae Insbector Ken, neu Ken 64, yn enw cyfarwydd yn ardaloedd Llanelli, Glan-y-fferi, Rhydaman, Caerfyrddin a Llanbed wedi iddo fod yn gwasanaethu yno gyda'r heddlu am bron i 30 mlynedd. Ond fel y mae'n cyfaddef, erbyn hyn mae tuedd hefyd i'w adnabod fel tad Emyr Lewis, y chwaraewr rygbi rhyngwladol!
Yn y gyfol hon cawn hanes ei ardal enedigol, Cwrtnewydd ger Llandysul, a'r cymeriadau difyr oedd yn byw yno - pobl fel Nat y potsiwr, oedd yn defnyddio ffrwydron i dasgu pysgod o'r afon, a Trefor, gyrrwr y bws ysgol, oedd yn barod iawn i adael i'r Ken ifanc wneud ei waith ar ei ran!
Mae'r hunangofiant hwn hefyn yn gofnod gonest o waith heddwas yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif a'r achosion y bu'r awdur yn ymwneud â hwy.
Mae Ken bellach yn byw yn Llanwnnwen ger Llanbed. Mae'n wr i Siân, yn dad i Elfyn, Emyr ac Eleri ac yn dad-cu i saith o wyrion.Bydd elw'r gyfrol yn mynd at Dy Hafan ac achosion tebyg.