Penliniai mam a brawd Hilda o flaen y teledu fel petaent wedi eu hypnoteiddio gan y bocs bach yng nghornel yr ystafell. "Be sy'n digwydd yma?" gofynnodd Hilda mewn syndod.
Trodd Gwilym, ei brawd ati, "Edrycha ar hwn, Hilda! Mae'r peth yn anhygoel, a does gan neb 'run syniad pam bod hyn wedi digwydd!..."
Dyma nofel llawn cyffro yn dilyn hynt a helynt Hilda, Tom a Hywel sy'n mynd ar grwydr rhyfeddol i wynebu bwystfilod a bwganod ar draws Cymru. Ydy Hilda a tom yn casau ei gilydd? Ydy Hywel yn gymeriad mor llwyd a diflas ag mae'n ymddangos? Beth yw'r Leiac, y Dwergar a'r Nwcecwbi? Cewch wybod y cyfan am y bwystfilod a'r bwganod yn y nofel fyrlymus a chyffrous hon gan Manon Steffan Ros.