Mae bywyd Annette Bryn Parri, y gyfeilyddes o Ddeiniolen, wedi bod ynghlwm â nodau du a gwyn y piano er pan oedd hi'n dair oed. Y gri ddiddiwedd ganddi bryd hynny oedd, "Dwi isio 'pnano'!" Ar ol cael un, doedd dim stop arni wedyn - chwarae cyfeiliant 'Arafa Don' yn berffaith pan oedd hi'n bump oed; cyfeilio yng ngwasanaeth boreol yr ysgol yn saith oed; chwarae ei threfniannau ei hun o ganeuon Abba gyda chân actol Ysgol Deiniolen yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac yna yn Neuadd Albert, Llundain yn ddeg oed. Meddai Cemlyn Williams wrth y dorf oedd wedi crynhoi i groesawu'r plant yn ol o Lundain bryd hynny, "Hon ydi Mozart Deiniolen!"
Ar ol graddio o Goleg Cerdd Manceinion daeth Annette i enwogrwydd fel cyfeilyddes broffesiynol, gan ganu'r piano mewn eisteddfodau a chyngherddau, yn y stiwdio recordio ac ar raglenni teledu. Er iddi deithio'r byd a gweithio gyda cherddorion amlycaf Cymru, yn ogystal â bod yn arweinyddes ac athrawes a chodi arian i elusennau, ei gwaith fel gwraig a mam, a bod ymysg ei theulu yn ei chynefin, sydd bwysicaf oll iddi.
Molwn yn awr ei mawredd - a natur
Ei heintus frwdfrydedd,
Cans daw pob alaw yn wledd
Iasol trwy ddawn ei bysedd.
(John Ogwen)