Dyma stori un gafodd ei alw yn brif smyglwr cyffuriau'r byd, Howard Marks o Fynydd Cynffig. Ond er ei eni yn Gymro Cymraeg yn un o gymoedd y de, wrth edrych dros ei fywyd, dywed fod yna ddwy Gymru yn ei hanes. Y Gymru yr oedd am droi ei gefn arni a'r Gymru y mae am wneud cymaint ag y gall i ddod 'nol yn rhan ohoni.
Y daith o un Gymru i'r llall sydd yn y llyfr hwn - y gyfrol gynta i roi ei holl fywyd hyd yma yn yr un gyfrol. A'r gynta yn y Gymraeg.
Mae'n daith a ddechreuodd gan lofrudd mewn carchar yn America. Daw Iolo Morganwg, Super Furry Animals, Billy the Kid, Patagonia a Rhys Ifans i ganol y stori yn eu tro, wrth iddo ailddarganfod Cymru sy'n berthnasol iddo fe heddi ac wrth iddo fynd ar daith anturus 'nol i hanes ei gyndeidiau.
Mae'n llyfr onest, personol. Mae'n crynhoi taith nifer o bobl dros y degawdau diwethaf wrth iddyn nhw ofyn yr un cwestiwn a Howard Marks, Beth yw Cymru?