Adolygiadau
Dyma fersiwn o nofel boblogaidd Islwyn Ffowc Elis, dilyniant i'w nofel Cysgod y Cryman (1956) sydd hefyd yn rhan o'r gyfres werthfawr hon. Erbyn hyn, mae Harri Vaughan wedi llwyddo i droi Lleifior yn gymuned gydweithredol ac, o dan ddylanwad Gwylan, myfyrwraig o'i ddyddiau ym Mangor, wedi mynd yn Gomiwnydd ac yn anffyddiwr. Mae Greta, ei chwaer, wedi symud i Lerpwl, yn briod â'r meddyg disglair ond gwrth-Gymreig Paul Rushmere. Mae Karl, yr Almaenwr hoffus, wedi gadael y fferm heb gyfaddef ei gariad tuag at Greta.
Yn y man, mae Edward Vaughan, pennaeth y teulu a symbol o'r hen Ryddfrydiaeth, yn marw, ac mae'r nofel yn tynnu at ei therfyn gyda damwain ffordd sy'n lladd Rushmere. Un o themâu'r nofel yw pererindod ysbrydol Harri Vaughan, sy'n adennill ei ffydd Gristionogol erbyn y diwedd. Mae Karl yn dychwelyd i Faldwyn, lle lleolir y nofel, ac, ar y dudalen olaf bron, yn dweud wrth Greta ei fod yn ei charu.
Bu'r ddwy nofel hon yn garreg filltir yn hanes y nofel Gymraeg, yn rhinwedd cyfoesedd y stori, naturioldeb y ddeialog, a'u hapêl at ddarllenwyr ifainc, yn arbennig yn eu triniaeth o serch a gwleidyddiaeth. Llwyddodd i ddenu cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr Cymraeg ar adeg pan nad oedd rhyw lawer o ddefnydd darllen yn yr iaith. Maent wedi dyddio rhywfaint, wrth reswm, gan fod y byd wedi symud ymlaen ers y pumdegau, hyd yn oed yng nghefn gwlad, ond mae'r nofelau'n parhau i fod yn ddarllenadwy.
Mae Basil Thomas, meistr yn ei faes, wedi talfyrru'r nofel wreiddiol yn sylweddol ond heb amharu â'r arddull hyfryd. Mae e hefyd wedi darparu nodiadau syml er mwyn helpu'r darllenydd i fwynhau'r nofel. Dylai'r llyfr fod yn addas i ddysgwyr o bob oedran sydd wedi cael gafael ar yr iaith ac sydd yn awyddus i ddarllen nofel go iawn.
Mae'r ddwy nofel wedi cael eu cyfieithu i'r Saesneg gan Meic Stephens dan y teitlau Shadow of the Sickle a Return to Lleifior.
- Meic Stephens, Gwales