Brithyll
Comedi afreolus am ddireidi ynfyd criw o gymeriadau brith gogledd Meirionnydd. Eu henwau yw Ding Bob Dim, Sbanish, Bic, Drwgi, Tintin a Chledwyn Bagîtha. Eu prif elyn yw Walter Sidney Finch, y dyn cyfoethocaf yn yr ardal; mae digwyddiadau'r stori yn troi o gwmpas y gwrthdaro hwn mewn ffordd ddifyr, ond sydd eto i gyd yn cynnig sylw craff ar gymdeithas. Cyhoeddwyd gyntaf Tachwedd 2006.