O deithio Ewrop gyda'r Anhrefn, cyhoeddi recordiau tanddaearol arloesol, rheoli degau o fandiau a threfnu cannoedd o gigs, cyfrannodd Rhys Mwyn fwy nag unrhyw un i'r Sin Roc Gymraeg.
Ef oedd rheolwr cyntaf Catatonia ac ef roddodd y cyfle cyntaf I Gruff Rhys a Dave Datblygu. Ond bu hefyd yn ddraenen barhaus yn ystlys y byd cyfryngol, saff, Cymraeg. Bu'n gyson feirniadol o S4C a Radio Cymru, a thra oedd yntau'n hyrwyddo bandiau Cymraeg ar Radio1 ac ym mhedwar ban byd roedd Radio Cymru yn ei wahardd. Croeso I fywyd heriol, dadleuol ac arloesol Rhys Mwyn.
"Mae cyn lleied o hanes y byd pop Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi/ddarlledu fel bod pob cenhedlaeth newydd bron yn hollol anwybodus o'r cyfoeth ddaeth o'u blaen. Dyma gyfle I mi gyflwyno'r stori fel digwyddodd hi drwy lygaid yr Anhrefn a Rhys Mwyn - y gwir yn ol Rhys Mwyn. Fel dywedodd y Manic Street Preachers: 'This is my truth.'"