Yn dilyn ysgariad, fe allfudodd Eva Goldsworthy i Groeg. Ymwelodd a'r mannau hynny a ddarllenodd amdanynt tra'n blentyn gan gynnau'r fflam o gariad a deimlodd tuag at y wlad trwy gydol y degawdau a ddilynodd.
Penderfynodd symud i Groeg yn barhaol, gan brynu darn o dir ac adeiladu cartref newydd iddi'i hun, gan anwybyddu storiau brawychus rhai eraill a dwyllwyd gan adeiladwyr wrth geisio byw'r freuddwyd.