The Janus Effect
Nofel ffug-wyddonol gyffrous wedi'i lleoli yn y 2040au. Mae Prydain dan rym unbennaeth ac mae'r Prosiect Genom wedi cael ei wyrdroi i wasanaethu ewgeneg. Mae dyn yn dihuno mewn ysbyty carchar heb atgof am yr hyn a ddigwyddodd dros 20 mlynedd. Dywedir wrtho ei fod yn derfysgwr a chanddo enw sy'n swnio'n ddieithr iddo. Bu'n ymhel â Phrosiect Alpha, ond ni all gofio dim.