Cyflwyniad cyflawn i gerddoriaeth Cymru, newydd a hen, ar gyfer y dosbarth yn bennaf; llyfr, 2 CD ac un CD-ROM yn cynnwys enghreifftiau o'n cerddoriaeth fwyaf arbennig a nodweddiadol; Cyfnodau Allweddol 1 a 2.
Bwriad y pecyn hwn yw cynorthwyo athrawon i gyflwyno amrywiaeth o enghreifftiau o gerddoriaeth o Gymru i blant ysgol gynradd. Ceir deunydd yma sy'n addas ar gyfer yr ystod oed 5 – 11, er bydd rhai unedau yn fwy addas ar gyfer oed a gallu penodol. Mae yma syniadau am weithgareddau ar gyfer ystod o amgylchiadau, gan gynnwys gwasanaeth ysgol, gwaith dosbarth, gwaith grãp a gwaith unigol.
Mae Cerddtastic yn cynnwys: ♦ 2 CD sain gyda 36 trac i gyd, i gynrychioli 20 detholiad cerddorol, gan gynnwys fersiynau caraoci ♦ Llyfr Adnoddau Athrawon sy'n cynnwys gwybodaeth am gefndir y darnau cerddoriaeth, awgrymiadau am weithgareddau a thaflenni adnoddau i ddisgyblion ♦ CD-Rom gyda phwyntiau dysgu a gwybodaeth am y gerddoriaeth i'w gyflwyno i'r plant.
Llyfr Adnoddau: Mae uned yn y llyfr adnoddau ar gyfer pob darn o gerddoriaeth ar y CD. Mae pob uned yn cynnwys: ♦ Gwybodaeth gwricwlaidd ♦ Gweithgareddau posib i'r plant ♦ Gwybodaeth am gefndir y gwaith cerddorol ♦ Syniadau trawsgwricwlaidd ♦ Syniadau am wrando pellach Ar ddechrau pob uned ceir rhestr yn disgrifio'r gweithgareddau posib, sy'n cynnwys disgrifiad o ffocws cwricwlaidd, trefniadaeth a'r adnoddau fydd eu hangen, a hefyd argymhelliad oed. Argymhelliad yw'r ystod oed, a dylai athro ystyried ei hun a yw'r gweithgaredd yn gweddu i oed, datblygiad a phrofiad cerddorol y plant. Ceir hefyd yn y llyfr adnoddau, dabl yn disgrifio'n fras gynnwys yr unedau, taflen Hanfodion Canu Da a rhestr o dermau cerddorol sy'n codi yn y gweithgareddau.
Cerddtastic a'r Cwricwlwm Cymreig: Gellir datblygu gwerthfawrogiad y plant o gelfyddydau creadigol a mynegiadol Cymru drwy weithgareddau'r pecyn hwn – mae hyn yn agwedd o'r Cwricwlwm Cymreig. Mae'r ystod cerddorol a ddewiswyd yn cynnig cyfle i'r plant werthfawrogi agweddau unigrwy o gerddoriaeth Cymru. Byddant yn datblygu ac yn ehangu ar eu gwybodaeth am rôl cerddoriaeth yng nghredoau, traddodiadau ac arferion y Cymry ddoe a heddiw.
Y Fersiwn Saesneg: Mae hwn yn becyn dwyieithog, ond nid cyfieithiadau union a geir gan fod cefndir diwylliannol gwahanol gan siaradwyr y ddwy iaith. Mae'r deunydd lleisiol yn Gymraeg, wrth gwrs, ond weithiau bydd lled gyfieithiad Saesneg o eiriau caneuon, a dylid pwysleisio mai bras ystyr y gwreiddiol a geir yma. Hefyd, fel arfer wrth gyfieithu mae mydr y llinellau yn cael ei golli..
.