Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor
Detholiad difyr o gynnwys dyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, gitârydd bas y grŵp roc Cymraeg cyntaf, 'Y Blew', a mab Gwynfor Evans, yn adlewyrchu ei farn am ganu pop y cyfnod, crefydd a gwleidyddiaeth, ffasiwn a rhyw. 41 llun du-a-gwyn.