Dyma'r gyfrol delfrydol i unrhyw un sydd am ddod i adnabod Sir Benfro. Mae'n cynnwys 24 o deithiau ym mhob rhan o'r sir, yn cynnwys mynyddoedd y Preseli yn y gogledd, y Parc Cenedlaethol ar yr arfordir, a Dinbych y Pysgod a Phenfro yn y de.
Mae'r awdur hefyd yn cyflwyno natur, hanes a chymeriadau'r ardal. Ceir gwybodaeth am fawrion fel Waldo, D.J., Dewi Emrys a Jemeima Niclas, yn ogystal a ffeithiau am adar, planhigion a rhyfeddodau'r arfordir. Cewch hefyd gyflwyniad i rai o adeiladau hanesyddol y sir, yn cynnwys y cromlechi hynafol a'r eglwysi godidog.
Mae'r teithiau'n amrywio o deithiau car hamddenol i deithiau cerdded hir, ac mae hyd y teithiau'n amrywio o ychydig oriau i ddiwrnod cyfan. Mwynhewch y cyflwyniad difyr hwn i un o siroedd mwyaf hudolus Cymru gyda 75 o luniau deniadol.