Mae'r Geiriadur hwn wedi'i rannu yn ddwy brif adran: sef (i) ystyron geiriau Cymraeg yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan roi cenedl y gair, lluosog a rhan ymadrodd; (ii) ystyron geiriau Saesneg yn y Gymraeg.
Yn ogystal, mae'r gyfrol hon yn cynnwys rhestrau geirfa Cymraeg-Saesneg, Saesneg-Cymraeg ar gyfer enwau personau, enwau lleoedd, anifeiliaid, adar, pysgod, planhigion, blodau a ffrwythau. Yng nghorff y Geiriadur mae nifer o hen eiriau Cymraeg yn ogystal â thermau technegol cyfoes.
Bydd y Geiriadur hwn yn gyfrol hanfodol i lyfrgell pob myfyriwr yr Iaith Gymraeg a'i Llenyddiaeth.
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1958