Cyfres y Duwiesau 3
Rhiannon
Cerdyn Rhiannon.
Rhiannon (Rhiannwn) yw gwraig Pwyll, Pendefig Dyfed. Mae'r llun yn dangos ei hanifeiliaid swynol, Cŵn Annwn, Adar Rhiannon a'r ceffyl gwyn yr oedd yn ei farchogaeth pan welodd Pwyll hi yng Nglyn Cuch. Meistres yr haf a'r hydref cynnar. Duwies Cyfiawnder a'r un a ddengys y ffordd i ddysgu gwersi Annwn.