Ar ol noson o rialtwch ac yfed yn nawns Gwyl Ddewi yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth, daw llofruddiaeth erchyll ar y llwybr lawr i Neuadd Glanymor i sobri pawb yn y dre.
Tipyn o sialens i dim dibrofiad Heddlu Dyfed-Powys yw datrys y dirgelwch sy'n rhoi'r brifysgol a'r dref ar brawf.
Ond wrth ymchwilio i'r drosedd, fe ddaw'r heddlu i sylweddoli bod gan Elenid Lewis lawer i'w guddio cyn ei marwolaeth ddisymwth ar y llwybr. Yn yr ymchwiliad, cawn ddilyn sawl trywydd gwahanol y tu hwnt i Aberystwyth - at gapel yn Aberaeron, plasty crand yn Nyffryn Aman, cartref hen bobl yng nghanol Caerdydd, yn ogystal ag is-fyd Caer a pherfeddion Llundain.
Dyma ddirgelwch carlamus yn llawn cymeriadau difyr sy'n dilyn sawl llwybr annisgwyl...