Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Malan Wilkinson yn datgelu'r cyfan am ei salwch a'r achubiaeth ger bont y Borth mewn llyfr
‘Cardi-Noir’ yn Mynd o Nerth i Nerth

‘Cardi-Noir’ yn Mynd o Nerth i Nerth

Mae Gareth Prior yn enw cyfarwydd iawn i'r sawl sydd yn mwynhau storïau trosedd 'Cardi-Noir' Geraint Evans. Mae’r ditectif erbyn hyn yn mynd ati i ddatrys pumed achos mewn nofel newydd sy’n cael ei chyhoeddi yr wythnos hon.  darllen mwy

Cwpan y Byd - Llawlyfr

Cwpan y Byd - Llawlyfr "di-duedd" Cymraeg

Gyda phencampwriaeth Cwpan Pêl-droed y Byd yn Rwsia ar droed bydd y siopau yn llawn deunydd hyrwyddo a marchnata di-ri. Mae’r Lolfa wedi mynd ati i gyhoeddi cyfeirlyfr “di-duedd” Cymraeg, a gobaith yr awdur Dylan Ebenezer yw y bydd y gyfrol yn gymorth i ddilynwyr pêl-droed ddewis tîm ar gyfer y gystadleuaeth, gan na fydd Cymru yn cymryd rhan.  darllen mwy

Datgelu'r frwydr dros addysg Gymraeg ac yn erbyn Education First gan addysgwr 'Stalinaidd' Dyfed
“Camp Lawn” Llyfr y Flwyddyn i’r Lolfa

“Camp Lawn” Llyfr y Flwyddyn i’r Lolfa

Yn ogystal â dathlu pen-blwydd y cwmni yn 50 oed bu 2017 yn flwyddyn ragorol i’r Lolfa o ran cyhoeddi gyda chwech o lyfrau’r cwmni yn cael eu dewis ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. O’r tri llyfr ar y rhestr fer yn y categorïau Ffeithiol Creadigol a Ffuglen, cyhoeddwyd y cyfan gan Y Lolfa.  darllen mwy

Gwasg ddigidol newydd Y Lolfa yn creu argraff

Gwasg ddigidol newydd Y Lolfa yn creu argraff

Mae gwasg Y Lolfa yn Nhalybont wedi buddsoddi mewn gwasg argraffu ddigidol newydd fel ychwanegiad i weisg litho’r cwmni. Y Lolfa, sy’n cyflogi 20 o weithwyr, yw un o’r cwmniau cyntaf ym Mhrydain i brynu’r Xerox Versant 180. Bydd y wasg newydd yn galluogi’r cwmni i argraffu gwaith digidol o’r safon uchaf bosib. Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Gwaith y cwmni.  darllen mwy

'Campwaith' Goronwy Wynne yn cael ei ail argraffu
Dwy stori arall i gwblhau cyfres tylwyth teg y tymhorau

Dwy stori arall i gwblhau cyfres tylwyth teg y tymhorau

Yn dilyn cyhoeddiad storïau Rhoswen a Mwyaren, tylwyth teg yr hydref a’r gaeaf yn 2017, dyma gyflwyno Brwynwen a Briallen, sef tylwyth teg y gwanwyn a’r haf. Mae eu storïau’n cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa’r wythnos yma, ac yn cwblhau pedwarawd o lyfrau ar y thema oesol honno, sef y tymhorau.  darllen mwy

Dysgwyr Cymraeg yn cael help llaw gyda phrosiect sy'n gweld pedwar o weisg Cymru yn cyd-weithio
Enillydd gwobrau comedi a'i nofel am goleg Aber yr 80au
Cyhoeddi nofel gyntaf un o brif nofelwyr Cymru ers wyth mlynedd
Cyhoeddi'r cofiant cyntaf erioed i un o 'ffotograffwyr newyddiadurol gorau'r byd' - Philip Jones Griffiths

Cyhoeddi'r cofiant cyntaf erioed i un o 'ffotograffwyr newyddiadurol gorau'r byd' - Philip Jones Griffiths

Degawd ers marwolaeth un o’r ffotograffwyr newyddiadurol gorau’r byd, y Cymro Cymraeg Philip Jones Griffiths, fe gyhoeddir y cofiant cyntaf erioed iddo, a hynny yn ei famiaith. Mae’r gyfrol Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a’i Luniau gan Ioan Roberts, a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg y Lolfa, yn cynnwys hanner cant o luniau trawiadol gan Philip ei hun, o Gymru, Fietnam a sawl gwlad arall.  darllen mwy

Uwch ddylunydd ffasiwn o Gymru sydd yn dylunio i gwmni All Saints yn cyhoeddi llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant.
Llenwi'r bwlch yn y llyfrau sydd ar gael i rieni yn y Gymraeg
Cyhoeddi cyfrol Diwrnod y Llyfr arbennig - yn Gymraeg!
Dewis llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant fel rhan o gynllun Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
Comic Mellten yn chwilio am gartwnwyr ifanc y dyfodol
Caru llyfrau, caru darllen
Sinemau anghofiedig gorllewin Cymru yn cael ei darganfod o'r newydd
Y Selar - digwyddiad dirgel yng nghartref llyfrau enwcoaf Cymru
241-260 o 338 1 . . . 12 13 14 . . . 17
Cyntaf < > Olaf