Newyddion
Cyhoeddi nofel a ddaeth yn ail yng Ngwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod 2018
Mae'r nofel a ddaeth yn ail i Ysbryd yr Oes gan Mari Williams yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn cael ei chyhoeddi yr wythnos hon. Mae Esgyrn gan Heiddwen Tomos yn sôn am berthynas tad-cu a’i ddau ŵyr – Twm yn 16 oed a Berwyn yn iau ac mewn cadair olwyn. darllen mwy
Disgybl ysgol yn ysbrydoli llyfr am ddeinosoriaid
Mae Bethan Gwanas wedi datgelu taw disgybl ysgol o’r enw Tyler Chown, o Ysgol Bro Cinmeirch, wnaeth ei hysbrydoli i ysgrifennu ei llyfr diweddaraf. Mae Cadi a’r Deinosoriaid yn lyfr llun a stori ar gyfer darllenwyr ifanc rhwng 5 a 8 oed. Tra’n trafod dau lyfr cyntaf cyfres Cadi gyda disgyblion yr ysgol awgrymodd Tyler y byddai’n syniad da i Cadi fynd i fyd y deinosoriaid – a chael ei llyncu, a dyna oedd yr hadyn berodd i Bethan Gwanas fynd ati i ysgrifennu’r llyfr. Ym mlwyddyn dau yr oedd Tyler ar y pryd, ac erbyn hyn mae ym mlwyddyn pedwar. darllen mwy
Grav yn dal i ysbrydoli ddegawd ers ei golli
Dros ddegawd ers colli Grav, mae’r cof a’r parch iddo mor amlwg ag erioed, gyda llyfr newydd yn cael ei gyhoeddi o’r enw Storis Grav. Yr hyn a ysbrydolodd Rhys Meirion i gofnodi llyfr o Storïau am Ray Gravell oedd y ffaith ei fod dal yn gymaint o destun sgwrs, a bod gan bawb eu ‘stori Grav’. darllen mwy
Elliw Gwawr yn annog bwyta'n iach gyda'r teulu cyfan
Mae’r ddarlledwraig Elliw Gwawr, sydd hefyd yn awdures ar nifer o lyfrau coginio, yn annog teuluoedd i fwyta’n iachach gyda llai o halen a siwgr wrth gyhoeddi ei llyfr newydd o’r enw Blasus a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon. darllen mwy
Ffeithiau a syniadau fydd yn newid eich bywyd am byth - y llyfr Cymraeg cyntaf am 'freakonomics'
Yr wythnos hon cyhoeddir y llyfr Cymraeg cyntaf ym maes Freakonomics - math o lyfrau poblogaidd sy’n datgelu bod y pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol yn anghywir, a hynny yn ôl darganfyddiadau gwyddonol cyfoes. darllen mwy
Bywyd lliwgar Eirian Wyn: gweinidog, consuriwr, actor, caplan Academi'r Elyrch... a thad Fflur Wyn
Cyhoeddir hunangofiant cynhwysfawr difyr Eirian Wyn, y gweinidog lliwgar a phoblogaidd o Frynaman yr wythnos hon, Hud a Lled. Mae’r hunangofiant yn llawn hanesion hoffus sydd wedi’u hysgrifennu ar y cyd gyda’i ffrind: y nofelydd, y golygydd a’r cofiannydd Aled Islwyn. darllen mwy
Ar ôl torri'r rhyngrwyd gyda'i ganeuon mae'r Welsh Whisperer am chwalu'r byd llyfrau gyda'i lyfr cyntaf
Ar ôl gwerthu miloedd o CDs ar hyd a lled y wlad yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Welsh Whisperer nawr yn anelu i fod ar frig y siartiau llyfrau ar gyfer y Nadolig gyda’i lyfr newydd. Mae Ffyrdd y Wlad yn llawn hiwmor a hwyl unigryw’r Welsh Whisperer, y canwr gorau i ddod o Gwmfelin Mynach erioed! darllen mwy
Cofio aberth T. H. Parry-Williams ganrif ers diwedd y Rhyfel Mawr
Ganrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth gwybodaeth newydd am yr effaith bellgyrhaeddol a gafodd y rhyfel ar un o feirdd a llenorion enwocaf Cymru – T. H. Parry Williams. Daw’r wybodaeth i’r fei mewn llyfr newydd sy’n bwrw golwg newydd ar brofiadau T.H. Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol – Pris cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr gan Bleddyn Owen Huws. darllen mwy
Robin Llywelyn yn cyhoeddi ei lyfr cyntaf ers tair mlynedd ar ddeg
Mae’r awdur dawnus Robin Llywelyn ar fin cyhoeddi ei gyfrol newydd, Cerdded Mewn Cell – ei lyfr cyntaf o ryddiaith ers 2004, pan enillodd wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol. darllen mwy
Cofianydd Iolo Morganwg yn dyrchafu cyfraniad 'syfrdanol' y gwrthryfelwr radical
Mae’r gyfrol hon yn cynnig portread cyffrous newydd o athrylith Iolo Morganwg ac yn beirniadu academyddion sydd wedi tanbrisio cyfraniad y dyn fel gwleidydd, gwladgarwr a gweledydd yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. darllen mwy
Cyw yn annog blant i ailgylchu
Mae llygredd, yn enwedig plastig, yn bwnc llosg ledled y byd ar hyn o bryd, ac yn cynyddu mewn pwysigrwydd wrth i ni ddysgu mwy am wirioneddau’r difrod a ddaw o’n sbwriel. Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr newydd yng nghyfres boblogaidd Cyw i gyflwyno’r neges i blant – Ailgylchu gyda Cyw. darllen mwy
Cyhoeddi dyddiaduron milwr ifanc o ddiwedd y Rhyfel Mawr
Union gan mlynedd ar ôl i’r Rhyfel Mawr orffen, cyhoeddir dyddiaduron personol milwr o Gymru, Stephen Owen Tudor yn y gyfrol Dyhead am Heddwch gan Y Lolfa. darllen mwy
Cymeriad 'camp' pumed marcwis Môn yn ysbrydoli nofel
Yr wythnos hon cyhoeddir Siani Flewog, ail nofel yr awdures o Fôn, Ruth Richards. Fel ei nofel gyntaf lwyddiannus, Pantywennol, ceir llinyn o’r gorffennol wrth i’r nofel ddarlunio cymeriad lliwgar y bonheddwr Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Môn (1875 – 1905). Plas Newydd, Ynys Môn (nawr o dan gadwraeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) oedd un o’i stadau niferus. Drwy wario’n afradlon ar dlysau, gemau a chyflwyniadau theatrig, llwyddodd Henry Cyril Paget i ddifa ffortiwn oedd yn gyfwerth â thua £11 miliwn y flwyddyn yn arian heddiw. darllen mwy
Nofel ddirgelwch gan awdur newydd wedi'i hysgrifennu mewn arddull Sgandi noir
Mae’r genre Sgandi-noir yn boblogaidd iawn gyda darllenwyr a gwylwyr yn fyd-eang erbyn hyn. Yr wythnos hon cyhoeddir Ar Drywydd Llofrudd, nofel dditectif gyfoes a thywyll gan awdur newydd, Alun Davies. darllen mwy
Llywydd Gŵyl Cobiau Aberaeron wedi cyhoeddi llyfr hanes llaethdai Cymry Llundain
Dros y canrifoedd mae’r Cymry wedi bod yn ganolog ac yn rhan bwysig iawn o ddosbarthu llaeth i drigolion dinas Llundain. Fe gyhoeddir llyfr dwyieithog yn nodi hanes y cyfraniad pwysig a wnaed gan Gymry o ardaloedd gwledig, gan gynnwys Ceredigion, ar Lundain a’i boblogaeth a oedd yn tyfu’n gyflym. Ganed yr awdur Megan Hayes i rieni o Sir Aberteifi, Dan ac Eliza Jane Lloyd, ac roedd y ddau ohonynt yn gweithio ym masnach llaeth Llundain. darllen mwy
CYHOEDDI LLAWLYFR HANFODOL AM BATAGONIA GAN GYMRAES A SWYNWYD GAN Y WLADFA
Yn y dathliad blynyddol i gofnodi glaniad y Cymry Cyntaf ym Mhorth Madryn, cyhoeddir llawlyfr pwysig i dywys pobl ar hyd taith y Cymry ym Mhatagonia gan Gymraes a briododd ddyn o’r Wladfa. Mae Llawlyfr y Wladfa, wedi’i ysgrifennu gan Delyth MacDonald, yn annog y darllenydd i ddilyn yr haul tua’r gorllewin hyd at yr Andes – mi fydd yn cael ei chyhoeddi yng Ngŵyl y Glaniad, sydd eleni yn Y Bala ar Orffennaf 28. darllen mwy
Ffrindiau oes yn cydweithio i greu llyfr Deian a Loli
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres deledu Deian a Loli, mae’r Lolfa ar fin cyhoeddi’r llyfr cyntaf mewn cyfres newydd am yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol ym mis Gorffennaf. darllen mwy
Trosedd go iawn yn ysbrydoli nofel dywyll newydd Llwyd Owen
Mae un o nofelwyr mwyaf blaengar a chyfoes Cymru yn cyhoeddi nofel newydd dywyll yr wythnos hon – ei stori orau eto ym marn awduron blaenllaw. darllen mwy
Merched Cymru yn Codi Llais
A hithau'n 100 mlynedd ers i rai merched gael y bleidlais ym Mhrydain, mae merched Cymru yn lleisio’u barn ar gyfartaledd a pharch mewn llyfr newydd o’r enw Codi Llais a gyhoeddir gan Y Lolfa. darllen mwy
Y 'BREXIT BLUES' YN YSBRYDOLI THRILLER ARSWYDUS A THYWYLL
Mae un o awduron amlycaf Cymru wedi ysgrifennu nofel sy'n dra wahanol i'w steil arferol. Mae Jon Gower wedi ysgrifennu nifer fawr o nofelau yn y Gymraeg ac y Saesneg ac wedi ennill Llyfr y Flwyddyn am ei waith llenyddol. Ond yr wythnos hon cyhoeddir ei nofel newydd Y Düwch, sef nofel drosedd dywyll, gan Y Lolfa. darllen mwy
221-240 o 338 | 1 . . . 11 12 13 . . . 17 | |
Cyntaf < > Olaf |