D. Geraint Lewis
Daw D. Geraint Lewis o Ynys-y-bwl yn wreiddiol a chafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, a Choleg y Brifysgol Aberystwyth. Yn llyfrgellydd wrth ei alwedigaeth, mae'n awdur toreithiog sydd wedi llunio geiriaduron a llyfrau ffeithiol poblogaidd eraill megis "Lewisiana" (2005) a "Geiriau Gorfoledd a Galar" (2015). Enillodd Wobr Tir na n-Og am lyfr plant gorau'r flwyddyn (ac eithrio ffuglen) am "Geiriadur Gomer i'r Ifanc" (1995).
LLYFRAU GAN YR AWDUR
13-18 o 24 | 1 2 3 4 | |
Cyntaf < > Olaf |