Robin Llywelyn
Enillodd Robin Llywelyn wobrau niferus, gan gynnwys y Fedal Ryddiaith am "Seren Wen ar Gefndir Gwyn" (1994). Enillodd "Seren Wen" wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992 ac enillodd Robin wobr Awdur y Flwyddyn y BBC yn 1994. Enillodd wobr Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol am y nofel "un Diwrnod yn yr Eisteddfod" (2004). Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanfrothen ger Penrhyndeudraeth ac mae'n Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Portmeirion Cyf. Mae'n briod ac yn dad i dri o blant.