Geraint V. Jones
Mae Geraint V Jones wedi cyhoeddi deg nofel Gymraeg ac un Saesneg, yn ogystal â nifer o nofelau byrion i blant a phobl ifanc, gan gynnwys y casgliad o straeon ysbryd "Storiau'r Dychymyg Du". Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith gydag "Yn y Gwaed" (1990), "Semtecs" (1998) a "Cur y Nos" (2000). Ef hefyd oedd golygydd y cyfrolau "Plu Stiniog" (Emrys Evans), "Cymeriadau Stiniog" a chyd-olygydd y flodeugerdd "Yn Fyw Mewn Geiriau".
LLYFRAU GAN YR AWDUR
7-7 o 7 | 1 2 | |
Cyntaf < > Olaf |