Tom Davies
Magwyd Tom Davies yn teulu agos sy'n ffermio yn Llanandras. Datblygodd ei gariad am natur a bod tu allan yn ifanc. Tra ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Addysg Gynradd, ymunodd â Chlwb Cerdded Mynyddoedd, a ddaeth yn drysorydd ac yn arweinydd, gan dreulio mwyafrif ei benwythnosau yn tywys grwpiau yn mynyddoedd Eryri. Ar ôl graddio, treuliodd pedair mlynedd yn dysgu. Yn ystod y cyfnod yma, datblygodd ei famgu afiechyd Alzheimer a bu farw yn sydyn iawn. Dwy flynedd yn ddiweddarach dechreuodd ei dadcu dioddef o dementia fasgwlar. Gwnaeth gweld dau berson y roedd yn caru yn dioddef o salwch mor bersonol a dryslyd ysbrydoli Tom i ddechrau codi arian ar gyfer Cymdeithas Alzheimer. Gwnaeth cyfuniad y ffactorau yma uno i rhoi'r syniad o'i sialens: i gerdded o amgylch Cymru, gan gario popeth oedd angen ar ei gefn. 1,100 milltir, 9 wythnos i ffwrdd o adref a tharged o godi £1,100 mewn noddion, a blog a ddaeth yn fwy poblogaidd na gallai fod wedi breuddwydio am. Mae Tom nawr yn cyfuno ei gariad at ddysgu a bod tu allan drwy weithio fel addysgwr gweithgareddau awyr agored.