Dana Edwards
A hithau'n wreiddiol o Sir Gâr mae Dana Edwards yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio fel ymchwilydd ar raglenni dogfen cwmni Unigryw. "Pam?" yw ei hail nofel, yn dilyn llwyddiant "The Other Half" yn Saesneg. Cafodd yr awdures ganmoliaeth gan ddarllenwyr am ei gallu i ysgrifennu stori afaelgar, i bortreadu bywyd Cymreig ac i achosi i'r dallenydd bendilio rhwng chwerthin a chrio.