J. J. Williams
Roedd JJ (John James) Williams yn chwarewr rygbi'r undeb, a enillodd 30 o gapiau yn chwarae i Gymru fel asgellwr.
Ganed yn Nantyffyllon yn ne Cymru. Roedd Williams yn athletwr cryf ar y maes a chynrychiolodd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin yn 1970. Ystyriwyd ef yn un o asgellwyr cyflymaf y gêm. Enillodd ei gap cyntaf rhynglwadol yn 1973. Fe aeth ar ddwy daith gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig – 1974 a 1977. Ar ôl ymddeol o chwaraeon, bu Williams yn rhedeg cwmni paentio masnachol a diwydiannol a leolwyd ger Penybont.