Gerrie Clancy
Ganed Gertrude Clancy yn Efrog Newydd, lle bu'n byw tan iddi symud i Aberystwyth yn 1990 gyda'i gwr Yr Athro Joseph Clancy. Roedd Gerrie yn ysgrifennu a chyfarwyddo dramau ar gyfer colegau a theatr cymunedol. Sefydliodd theatr cymunedol yn y Bronx yn 1975. Yn 1988 graddiodd gyda BA yn Llenyddiaeth Saesneg o Coleg Marymount Manhattan. Yn ystod ei chyfnod yn Efrog Newydd roedd Gerrie yn gweithio fel llyfrgellydd i blant. Ar ol symud i Gymru roedd yn adolygu llyfrau Cymraeg i blant yn Saesneg ar gyfer y papur Cymraeg-Americanaidd Ninnau ac ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru. Bu farw Gerrie yn 2013.