Guto Dafydd
Fe'i magwyd ym mhentref Trefor, Gwynedd. Mynychodd Ysgol yr Eifl, Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion-Dwyfor. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd.
Yn 2014 cyhoeddodd Jac, nofel dditectif gyffrous i bobl ifanc. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion yn 2015, sef Stad.
Mae'n byw ym Mhwllheli gyda'i wraig, Lisa, a'u plant, Casi a Nedw.