Casia Wiliam
Magwyd Casia Wiliam yn Nefyn ym Mhen Llŷn, ond ar ôl degawd o fyw yng Nghaerdydd, mae hi a'r teulu wedi symud i Gaernarfon. Mae'n gweithio i'r Disasters Emergency Committee (DEC), ac yn ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth i blant ac oedolion.