Emlyn Richards
Magwyd Emlyn Richards mewn tyddyn bach yn Sarn Mellteyrn, a gadawodd yr ysgol yn 14 oed i fynd i weini ar fferm. Ef a'i frawd oedd y ddau olaf i fyw mewn llofft stabl yn Llŷn. Yn ddiweddarach ymunodd gyda'r weinidogaeth ac ymgartrefu yng Nghemaes, Môn.