Alun Wyn Bevan
Mae Alun Wyn Bevan yn ddarlledwr, sylwebydd rygbi a chyn-ddyfarnwr rygbi Cymreig. Bu'n gweithio ym maes addysg ac yn hwyrach fel ymchwilydd a chynhyrchydd i gwmni teledu Tinopolis yn Llanelli. Mae'n wreiddiol o Brynaman, ond nawr yn byw yng Nghastell-Nedd. Mae Alun wedi bod yn rhan o sawl cynllun i bobl ifanc yn hyrwyddo'r Gymraeg mewn chwaraeon a gwella iechyd plant yn Rhondda Cynon Taf. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg.
LLYFRAU GAN YR AWDUR
7-12 o 12 | 1 2 | |
Cyntaf < > Olaf |