Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Alan Llwyd

Alan Llwyd

Yn 2012 dyfarnodd Prifysgol Cymru radd Doethuriaeth mewn Llên i Alan Llwyd am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg. Y cofiant hwn yw'r ail mewn pedwarawd o gofiannau ganddo. Y llynedd cyhoeddwyd ei gofiant i Kate Roberts, gwaith a alwyd yn glasur ac yn un o gofiannau mawr yr iaith Gymraeg gan feirniaid ac adolygwyr. Cyhoeddir ei gofiant i Waldo Williams yn y dyfodol agos, a bydd ei gofiant i Gwenallt yn dilyn. Mae Alan Llwyd yn awdur nifer helaeth o gyfrolau, ac mae'n gweithio ar ei liwt ei hun fel awdur llawn-amser. Fe'i penodwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe yn 2013.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 (caled)

- Alan Llwyd
£29.95

Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 (meddal)

- Alan Llwyd
£19.95

Yr Odliadur Newydd

- Alan Llwyd, Roy Stephens
£12.99

Dwylo Coch a Menig Gwynion

- Alan Llwyd, Emyr Young
£9.99

Y Flodeugerdd o Ddyfyniadau Cymraeg

- Alan Llwyd
(Gol.: Alan Llwyd)
£12.95
7-11 o 11 1 2
Cyntaf < > Olaf