Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o John G. Rowlands

John G. Rowlands

Yn enedigol o Lanrhystud, Ceredigion. Astudiodd gelf yng Nghaerdydd, Bryste a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Bu'n athro Celf yn Buxton, Ystradgynlais ac Aberystwyth cyn gweithio fel Swyddog Addysg Celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enillodd Goron Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ym 1986. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i eiddo gan Y Lolfa - ANNWYL ARHOLWR ac ABER. Mae'n byw yn Nhremadog, Gwynedd. Datblygodd ei waith o seiliau tirluniol, lled-haniaethol i ddelweddau haniaethol gweadol pur. Arddangosodd yn eang yng Nghymru yn cynnwys : Yr Albany, Caerdydd; MOMA, Machynlleth; Festival Interceltique, L'Orient, Llydaw; Oriel Waterfront, Aberdaugleddau; Canolfan Dylan Thomas, Abertawe; Crefft yn y Bae, Caerdydd ac Oriel Rob Piercy, Porthmadog. Gwelir ei waith yn gyson yn Oriel Kooywood, Caerdydd; Oriel Tonnau, Pwllheli ac Oriel Y Castell, Cricieth; Oriel y Bont, Aberystwyth. Mae'n fardd haiku hefyd. Gwelir rhai o'i haiku yn Another Country/Blodeugerdd o Haiku o Gymru.Gwasg Gomer, 2011. Cyhoeddwyd casgliad o'i haiku a senryu 'cylymau tywod/knots of sand' gan Alba Publishing, 2017.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Annwyl Arholwr

- John G. Rowlands
£3.95
£3.95