Annette Bryn Parri
Ganed Annette Bryn Parri yn Deiniolen, Gwynedd. Mae'n gyfeilyddes a phianydd i sêr opera fel Bryn Terfel a Rebecca Evans. Astudiodd yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion gan arbennigo yn lieder, oratorio ac opera. Mae wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys y Fedal Grace Williams am gyfansoddiad yn Eisteddfod yr Urdd 1982 a'r Rhuban Glas ar gyfer offerynnwyr yn Eisteddfod Cenedlaethol Rhyl yn 1985. Ers 1993 mae Parri wedi cyfeilio i gorau Ysgol Glynaethwy a fe sefydlodd TRIO yn 2013, sef triawd lleisiau.