Bobby Freeman
Ganwyd a magwyd y diweddar Bobby Freeman yn Bury, Swydd Gaerhirfryn, er roedd ei chyn-deidiau o Ogledd Cymru. Wedi derbyn cymhwysedd yn Nylunio Diwydianol ym Manceinion a dysgu am gyfnod byr, fe dreuliodd 16 mlynedd fel gweithredwraig cyntaf yng Nghysylltiadau Hysbysebu a'r Wasg yn y Canoldir. Dechreuodd diddordeb Bobby am goginio traddodiadol Cymraeg yn gynnar yn y 1970au pan oedd yn rhedeg ei bwyty, rhan o Gwesty Compton House, Abergwaun, Sir Benfro. Ar yr adeg hynny doedd dim diddordeb na chymorth o fewn y maes am y syniad o gynnig prydau traddodiadol Cymreig. Roedd yn anodd casglu ryseitau traddodiadol Cymreig ag oedd yn ddilys, arweiniodd hyn i ymchwil Bobby i mewn i'r traddodiadau, ar ol i'w bwyty cau. Arweiniodd hyn at yr ymchwil cyntaf o gefndir hanesyddol ac economeg cymdeithasol y traddodiadau yn 1980: First Catch Your Peacock, a wethwyd dros y byd. Dilynwyd y llyfr yma gan 8 teitl arall: A Book of Welsh Bread, A Book of Welsh Country Cakes and Buns, A Book of Welsh Bakestone Cookery, A Book of Welsh Country Puddings & Pies, A Book of Welsh Fish Cookery, A Book of Welsh Soups & Savouries; Welsh Country House Cookery (ar gyfer Datblygiad Canolbarth Cymru), a Welsh Country Cookery. Fe gwnaeth hefyd olygu Lloyd George's Favourite Foods, llyfr oedd yn cynnwys sawl ryseit o fwydach traddodiadol Cymreig, ac yn hwyrach fe olygodd a chyhoeddodd llyfr Enid Roberts, sef ' Food of the Bards' sef llyfr am Feirdd hanesyddol yn disgrifio y bwyd a gafwyd ar eu ymweliadau i fonedd Cymru. Cyfraniad arall oedd cyflwyniad ac esboniad 6000 gair ar gyfer The First Principles of Good Cookery, gan Arglwyddes Llanofer, prin yw'r fersiwn gwreiddiol, cyhoeddwyd gan Wasg Brefi yn 1991 – gwireiddiad breuddwyd 20 mlynedd i Bobby. Yn ychwanegol i'r llyfrau, roedd Bobby yn ysgrifennu ar fwydach Cymreig ar gyfer y Birmingham Post, Western Mail a South Wales Magazine yn ystod yn 1960au a 70au. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer Y Faner am ddwy flynedd a bu ar radio a theledu Cymraeg yn ymwneud a bwyd a bwytai Cymraeg. Yn y 1970au fe dreuliodd dwy flynyedd gyda Bwrdd Twristiaeth Cymru a gynyddodd ei gwybodaeth o Gymru a'r Cymry. Un o'i swyddi cyson oedd i ddyfeisio prydoedd dathlu gyda thema Cymraeg arnynt ar gyfer digwyddiadau arbennig – er enghraifft Dydd Gwyl Dewi ar gyfer newyddiadurwyr o dramor. Yn 1982 dychwelodd Bobby i Orllewin Cymru ar ol 10 mlynedd yng Nghaerdydd er mwyn sefydlu ei Chanolfan Coginio tu allan i Aberteifi. Bu yn rhan o ffilmio y ffilm cyntaf erioed am draddodiadau bwyd Cymraeg yn 1982 hefyd – ffilm hanesyddol gywir, adleisiol iawn a ffilmwyd ar gyfer S4C.
LLYFRAU GAN YR AWDUR
1-6 o 8 | 1 2 | |
Cyntaf < > Olaf |