Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Hefin Wyn

Hefin Wyn

Brodor o'r Preselau yn Sir Benfro, yw Hefin Wyn. Treuliodd ei yrfa fel newyddiadurwr print, radio a theledu gan weithio i'r Cymro, BBC ac HTV. Dewiswyd tri o'i lyfrau ar restr fer Llyfr y Flwyddyn sef Be Bop a Lula'r Delyn Aur – hanes canu poblogaidd Cymraeg hyd at y 1980au (2003); Pentigily: Dilyn Llwybr Arfordir Sir Benfro (2009) ac Ar Drywydd Niclas y Glais – Comiwnydd rhonc a Christion gloyw (2019). Cyhoeddodd hefyd gofiant i Meic Stevens a chofiant taith i Waldo Williams yn ogystal â'r gyfrol Ble Wyt Ti Rhwng? yn olrhain hanes canu roc Cymraeg rhwng 1980 – 2000. Llyfrau taith eraill o'i eiddo yw Lle Mynno'r Gwynt (Bolifia) a Pwy Biau'r Ddeilen? (Canada). Cyd-olygodd y gyfrol Nithio Neges Niclas gyda Glen George. Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill mae Brwydr y Preselau sy'n olrhain yr ymdrech lwyddiannus i gadw militariaeth draw o'r Preselau yn y 1940au.

http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/634-hefin.shtml

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Pentigily: Dilyn Llwybr Arfordir Sir Benfro

- Hefin Wyn
£14.95

Ble Wyt Ti Rhwng?

- Hefin Wyn
£14.95

Be Bop a Lula'r Delyn Aur

- Hefin Wyn
£14.95
7-9 o 9 1 2
Cyntaf < > Olaf