Dylan Rowlands
Mae Dylan a Llinos Rowlands wedi rhedeg bwyty Dylanwad Da yn Nolgellau ers dros 25 mlynedd ac mae wedi ei gynnwys yn The Good Food Guide bob blwyddyn er 1990. Yn ystod y gaeaf mae Dylan yn mynd ar deithiau dros Ewrop i ddod o hyd i winoedd newydd a diddorol. Mae hefyd wedi bod yn flaenllaw yn sefydlu rhwydwaith at Twitter ar gyfer busnesau Cymreig – Yr Awr Gymraeg – ac mae'n westai cyson ar Prynhawn Da, S4C fel arbenigwr gwin.