Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Angharad Tomos

Angharad Tomos

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd iaith ddigyfaddawd, a'i gwreiddiau yn ddwfn
yn Nyffryn Nantlle, yn un o bum chwaer,ac yn wyres i'r Sosialydd, David Thomas.
Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84 ac fe'i carcharwyd fwy nag unwaith am ymgyrchoedd iaith.
Mae'n llenor disglair ac wedi ysgrifennu a darlunio nifer helaeth o lyfrau i blant gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1983. Mae wedi ennill coron Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at lenyddiaeth plant yng Nghymru.
Ysgrifennodd hanner dwsin o nofelau i oedolion, a llwyfannwyd drama o'i heiddo gan y Theatr Genedlaethol yn 2012. Yn ddiweddar, mae wedi sgwennu tair nofel i bobl ifanc yn seiliedig ar
ddigwyddiadau hanesyddol.
Mae'n byw ym Mhenygroes gyda'i gŵr Ben a'i mab, Hedydd.

https://en.wikipedia.org/wiki/Angharad_Tomos

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Llyfr Mawr Rwdlan

- Angharad Tomos
£9.95

Y Llipryn Llwyd

- Angharad Tomos
£3.95

Cosyn

- Angharad Tomos
£3.95

Mali Meipen

- Angharad Tomos
£3.95

Penbwl Hapus

- Angharad Tomos
£2.95

Llyfr ABC Rwdlan

- Angharad Tomos
£2.95
25-30 o 115 1 . . . 4 5 6 . . . 20
Cyntaf < > Olaf