Sioned Wiliam
Mae Sioned yn byw yn Llundain, ond mae'n enw adnabyddus iawn ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Fe'i ganwyd yng Nghaerfyrddin a'i magu yn y Barri. Mae Dal i Fynd wedi ei opsiynu gan gwmni teledu Working Title. Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i'r prif rwydweithiau. Rhwng 1999 a 2006 roedd hi'n Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill's Sketch Show a Cold Feet. Mae ganddi nifer o brosiectau ar y gweill gyda chwmni Working Title ac mae'n datblygu cyfres i Sky gyda chriw Horrible Histories.