Owain Llyr
Daw Owain Llŷr o Donyrefail ger Pontypridd yn wreiddiol ond symudodd i Drefach Felindre yn Sir Gar pan oedd yn dair blwydd oed. Ers graddio mewn Ffotograffiaeth, Ffilm a Delweddau o Brifysgol Napier yng Nghaeredin, bu'n gweithio'n bennaf fel cyfarwyddwr teledu. Enillodd ei ffilm "La Casa di Dio", sy'n olrhain hanes eglwys yng Ngheredigion a adeiladwyd gan garcharorion rhyfel Eidalaidd adeg yr Ail Ryfel Byd, wobr Dogfen Orau Ewrop yng Ngwyl Ffilm Ryngwladol Iwerddon 2010 a Dofgen Orau'r DU yng Ngwyl Ffilm Bae Abertawe 2010.