Mair Garnon
Magwyd Mair Garnon yn Llandudoch. Bu'n athrawes fro am flynyddoedd maith cyn ymddeol ar ddechrau'r 90au. Treuliodd oes yn gwasanaethu ei hardal ac yn gwneud i bobl chwerthin. Dros gyfnod o hanner can mlynedd mae hi wedi teithio cannoedd o filltiroedd yn creu adloniant fel arweinydd Nosweithiau Llawen ac fel darlithydd poblogaidd.