Charles Bronson
Ganwyd Charles Bronson yn Aberystwyth ym 1952. Symudodd y teulu i Luton ac fe weithiodd fel dyn cryf mewn syrcas cyn treulio amser byr yn Nwyrain Llundain fel bocsiwr.Cafodd ddedfryd o saith mlynedd yn y carchar am ddwyn £26.18 o siop tobaco - dedfryd a ymestynwyd wrth iddo droseddu oddi mewn i furiau carchar.Mae wedi treulio amser mewn 120 o garchardai gwahanol ac, ers 1974, wedi treulio 4 mis yn unig fel dyn rhydd. Mae'n dal i fod yn garcharor Categori A yng Ngharchar Diogelwch-Uchel Wakefield.Mae'n treulio'i amser yn barddoni a chreu darnau o gelf sydd wedi ennill record o 11 Gwobr Koestler. Rhyddhawyd "Bronson", ffilm o'i fywyd, gan Vertigo Films ym Mawrth 2009.