Richard E. Huws
Ganwyd yr awdur yng Nghaerfyrddin, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yng Ngheredigion. Bu'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn Aberystwyth, am bron i 40 mlynedd, cyn ymddeol yn ddiweddar o'i swydd fel Pennaeth y Gwasanaethau Darllen. Mae wedi cyhoeddi eisioes ar bynciau megis hanes argraffu, hanes lleol, hanes teulu a chwaraeon. Mae'n byw yn Mont-goch, ger Aberystwyth, ac yn cefnogi pob math o chwaraeon, yn enwedig clwb peldroed Swansea City.